Barry Parish Church

28th July 2022

Daily Reading: 28 July

 

(from www.christianaid.org.uk)

 

Food to eat

Something to read

I have food to eat that you do not know about

- John 4:31 from full reading John 4:31-38.

Something to think about

In this reading, we see Jesus awaiting the townspeople to greet him, having had his meeting with the woman from Samaria. Jesus is encouraged to eat, but his wish is to see other people coming to him for spiritual nourishment.

This shows that seeking God and going about his Kingdom work sets us in a place where we feel fulfilled and nourished (v34). Here we glimpse the bodily bread and water and nourishment that is to last for eternity.

We are not to dither in the Kingdom-building work God has for us – ‘the fields are ripe for harvesting’ (v35). There are people who need to hear about God and his Kingdom and about the one who brings us into it – Jesus Christ.

Something to do

Like Jesus, we come to know what God’s will for us is by spending time with him daily. Keep spending time with God.

Something to pray

Lord, let me seek your company and your will daily, and having found it, hasten to fulfil it since the fields are ripe for harvesting.

For Jesus’ sake. Amen.
 

Dydd Sadwrn, Gorffennaf 28ain

Darllen: Ioan 4: 31-38

I feddwl amdano: Yn y darlleniad yma sydd wedi’i osod inni heddiw fe gawn Iesu ar ddiwedd ei gyfarfod gyda’r wraig o Samaria wrth ffynnon Jacob, ei ddisgyblion wedi dychwelyd o’r dref lle’r aethant i geisio bwyd, ac Iesu yn disgwyl pobl y dref honno i ddod ato oherwydd bod y wraig wedi mynd yno i dystio amdano.

Caiff Iesu ei gymell i fwyta, ond ar hyn o bryd mae’r awydd sydd ganddo i weld pobl yn dod ato ac yn cael cynhaliaeth ysbrydol eu hunain yn fwy na’i awydd i fwyta. Dengys yma fod ceisio Duw a gwneud gwaith ei Deyrnas yn ein gosod mewn lle i gael ein digoni (adn. 34).

Gwelwn gyffwrdd ar yr angen am ddŵr a bara corfforol a maeth sydd yn para am byth yn y darn cyfoethog hwn. Beth bynnag y bo, nid ydym i oedi yn y gwaith sydd gan Dduw ar ein cyfer yn ei Deyrnas - ‘Mae’r meysydd eisoes yn wyn’ medd Iesu (adn. 35).

Mae yna bobl sydd angen clywed am Dduw a’i Deyrnas a gweld yr un sy’n ein dwyn i mewn iddi, sef Iesu ei hun.

I’w wneud:

fel Iesu, fe fyddwn yn dod o hyd i ewyllys Duw ar ein cyfer mewn cymundeb dyddiol gydag ef. Daliwch ati yn y gwaith hwnnw.

I’w weddïo:

Arglwydd, gad imi geisio dy gwmni a’th ewyllys yn gyson, ac o’i gael, brysio i’w gyflawni gan fod y meysydd eisoes yn wyn ac yn barod ar gyfer y cynhaeaf. Er mwyn Iesu, Amen.

Author: Huw Powell-Davies is a minister with the Presbyterian Church in Wales in Mold and the surrounding area. He is also editor of codenominational Welsh language paper Y Pedair Tudalen.

Powered by Church Edit